1,(2,(3,4),5,6); 1,2,6,13; 1,4,2,5; 1,7,8,9,10,11,12; 1,(7,(9)),10; 1,((7),10),11. 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell Amdanat bob yr awr; Tyrd, fy Anwylyd, mae'n hwyrhau A'm haul bron mynd i lawr. Tebygwn be bai nhroed yn rhydd, Maes o'r caethiwed hyn; Na wnawn ond canu byth tra bwyf, Am ras Calfaria fryn. Tyr'd Arglwydd, ā'th addewid rad, Pur eiriau'r nef i ben; Dyddiau fy rhyddid roed dan sel, Yn nirgel lyfr y nen. Mae dyddiau griddfan i mi'n hir, Caethiwed Babel fawr; O na chawn deimlo'r Jubil fwyn, Yn agor dorau'r wawr. Pererin wyf mewn anial dir, Yn crwydro yma a thraw; Ac yn rhyw ddysgwyl bob yr awr, Fod tŷ fy Nhad gerllaw. Mae arnaf hiraeth am y wlad, Lle mae torfeydd diri'; Yn canu'r anthem i barhau, Am angau Calfari. Tro fy nghariadau oll i gyd 'Nawr yn anffyddlon im; Ond yr wyf finnau'n hyfryd glaf O gariad mwy ei rym. Cariad na 'nabu plant y llawr Mo'i rinwedd nac mo'i ras, Ac sydd yn sugno'm serch a'm bryd O'r creadur oll i maes. O gwna fi'n ffyddlon tra fwy' byw A'm lefel at dy glod, Ac na fo pleser fynd a 'mryd A welwyd is y rhod. Tyn fy serchiadau'n gryno iawn Oddi wrth wrthrychau gau At yr un gwrthrych ag sydd fyth Yn ffyddlon yn parhau. 'Does gyflwr tan yr awyr las 'Rwy' ynddo'n chwennych byw; Ond fy hyfrydwch fyth gaiff fod O fewn cynteddau'm Duw. Fe ddarfu blas, fe ddarfu chwant At holl bwysau'r byd; Nid oes ond gwagedd heb ddim trai Yn rhedeg trwyddo i gyd. Mor ddedwydd ydyw'r dyrfa lan, Ac diroedd gwlad yr hedd; Sy'n gorphwys o'u blinderau dwys, Ac yn mwynhau dy wedd. byth tra bwyf :: tra f'awn byw cynteddau'm Duw :: cynteddau 'Nuw - - - - - 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell, Am danat, Iesu mawr; O tyr'd, fy Anwylyd, mae'n hwyrhau, A'm haul bron myn'd i lawr. Trodd fy nghariadau oll i gyd 'Nawr yn anffyddlon im'; Ond yr wyf fi yn hyfryd glaf O gariad mwy ei rym. Mi rof ffarwel i bob rhyw chwant, Pob pleser is y nen; Ac yr wy'n cymryd Iesu o'm bodd Yn Briod ac yn Ben. Rho imi lynu wrth dy draed, A chanu am waed dy groes; Bydd hyn yn ddigon im' o fraint Dros chwerwon ddyddiau f'oes.William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Anturiaf at ei orsedd ef Hiraetha f'enaid am fwynhau Mae dyddiau griddfan i mi'n hir Mi ymddiriedaf yn ei Air Pererin wyf mwn anial dir Tyr'd Arglwydd a'th addewid rad |
I am looking across the distant hills, For thee every hour; Come, my Beloved, it is getting late, And my sun about to go down. I suppose if my feet were free, Out of this captivity; I would do nothing but sing forever while I live, About the grace of the hill of Calvary. Bring, Lord, thy gracious promise Of the pure words of heaven to fulfilment; May the days of my freedom be sealed, In the secret book of heaven. The days of groaning are long for me, The captivity of great Babel; O that I may feel the gentle Jubilee, Opening the doors of the dawn. I am a pilgrim in a desert land, Wandering here and there; And in some expectation every hour, The my Father's house is at hand. I have a longing for the land, Where there are innumerable throngs; Continuing to sing the anthem, About the death of Calvary. All my loves altogether turn Now unfaithful to me; But I am a delightful victim Of the love of great force. A love the children of earth did not know Neither its virtue nor its grace, And which sucks my affection and my intent All out from the creature. Oh make me faithful while I live And my level to thy praise, And may there be no pleasure taking my intent Seen under the sky. Draw my affections very firmly From hollow objects To the one object that will forever Faithfully remain. There is no condition under the blue sky In which I desire to live, But my delight is forever to be Within the courts of my God. Taste has gone, desire has gone Towards all the weight of the world; There is only emptiness without any ebbing Running through it all. How happy is the holy throng, Over the lands of the country of peace; Which rest from their intense griefs, And enjoy thy face. :: :: - - - - - I am looking across the distant hills, For thee, great Jesus; O come, my Beloved, it is getting late, And my sun almost gone down. All my loves turned altogether Now unfaithful to me; But I am delightfully sick Of love of greater power. I will bid farewell to every kind of lust, Every pleasure under the sky; An I am taking Jesus gladly As Spouse and as Head. Grant me to stick at thy feet, And sing about the blood of thy cross; This shall be a sufficient privilege to me For the bitter days of my lifespan.tr. 2009,20 Richard B Gillion |
I look beyond the distant hills, My risen Lord to see: O come, Beloved, ere the dusk, My sun doth set on me! Methinks that were my feet released From these afflicting chains, I would but sing of Calvary, Nor think of all my pains. I long for thy divine abode, Where sinless myriads dwell, Who ceaseless sing thy boundless love, And all thy glories tell.1854 Joseph Morris also: I look beyond the far-off hills
Howell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953 - - - - - (Expectation) I look beyond the distant hills, My risen Lord to see; come, Beloved, ere the dusk, My sun doth set on me. Methinks that were my feet released From these afflicting chains, I would but sing of Calvary, Nor think of all my pains. I long for Thy divine abode, Where sinless myriads dwell, Who ceaseless sing Thy boundless love, And all Thy glories tell. How happy are the saints in those Celestial realms above; Who rest from every pain and grief, And sing Thy boundless love. tr. Hymns & Tunes in Welsh & English (E T Griffith) 1884
Tune [CM 8686]: Bangor (The Harmony of Zion 1734) |